Cartref

Cynhelir Pentref Byd-eang Merthyr Tudful 2007 ar ddydd Sul 8fed Gorffennaf 2007 ym Mharc Cyfarthfa, Merthyr Tudful.

Sefydlwyd Digwyddiad Pentref Byd-eang Merthyr Tudful yn 2005 i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o amrywiaeth ddiwylliannol a threftadaeth Merthyr Tudful.

Digwyddodd y drafodaeth gychwynnol yn y Fforwm Amrywiaeth Amlasiantaethol (MADF) – partneriaeth o gyrff statudol a gwirfoddol lleol sy’n cyfarfod i fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag amrywiaeth a throseddau casineb.

Roedd aelodau MADF eisiau datblygu digwyddiad a fyddai’n mynd â’u cyfrifoldebau a’u gwaith yn y maes hwn y tu allan i’w sefydliadau eu hunain.


   

Penderfynwyd mai digwyddiad cysylltiedig â Gŵyl Treftadaeth Merthyr Tudful fyddai’r ffordd orau i gynnwys cynifer o aelodau o’r gymuned â phosibl.
Y llynedd roedd y rhaglen yn cynnwys rhai doniau lleol ond yn bennaf pobl wadd o’r tu allan i’r fwrdeistref. Eleni mae’r trefnwyr wrth eu bodd bod cymaint mwy o grwpiau lleol yn cymryd rhan. Rydym yn arbennig o falch o’r gwaith y mae ein pobl ifanc leol wedi’i wneud i baratoi ar gyfer y digwyddiad hwn, gan ddod o hyd i wybodaeth am ddiwylliannau a thraddodiadau pobl sy’n aelodau o’n cymuned a hefyd dathlu hanes Merthyr ei hun.

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r digwyddiad ac edrychwn ymlaen at eich gweld eto’r flwyddyn nesaf.